Griffith G. Jones (Glan Peris)
Roedd Griffith G. Jones, a ganwyd ym mhlwyf Llandwrog ym 1859 yn un o'r dynion hynny a gyfrannodd yn helaeth at ei ardal, fel aelod neu arweinydd pwyllgorau lleol a chrefyddol. Bu'n gynghorydd dosbarth am gyfnod rhwng 1894 a 1897. Mabwysiadodd y ffugenw Glan Peris, a bu'n arferol cyfeirio ato fel "G.G. Jones (Glan Peris)". Trodd ei law weithiau at arwain corau mewn cyfarfodydd cystadleuol ac ati, ac roedd yn boblogaidd fel arweinydd cyfarfodydd cyhoeddus.
Ym 1881, roedd yn byw gyda'i ewyrth a'r teulu yn Brynrefail. Gweithiai y pryd hynny fel chwarelwr. Ym 1891 roedd yn byw yn Brynrefail, ger Tanfforddelen, rhwng Y Groeslon a phentref Carmel, gyda'i wraig Barbara. Yr adeg honno, roedd yn asiant i gwmni yswiriant y Prudential. [1] Rywbryd tua 1897, fe'i benodwyd yn gofrestrydd priodasau a swyddog elusen ("relieving officer") ar gyfer y rhan honno o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon oedd yn Sir Fôn, a symudodd y cwpl i Ddwyran. Yr adeg honno, cynhaliwyd cyfarfod i gyflwyno tysteb iddo gan bentrefwyr Carmel a'r cylch:
CARMEL, LLANDWROG. CYFLWYNO TYSTEB.-Nos Lun, yn addoldy Carmel, cyflwynwyd tystebau i Mr G. G. Jones (Glan Peris) a'i briod, ar eu hymadawiad i Fon. Bu Glan Peris a'i briod yn llafurio am lawer o flynyddau yn y cymydogaethau hyn, ac o wasanaeth helaeth mewn pwyllgorau, cyngherddau, &c., ac yn arbenig fel athraw ac athrawes gyda’r plant. Hefyd, bu Glan Peris yn llanw y swyddau o warcheidwad a chynghorydd dosparth dros blwyf Llandwrog, hyd ei ddyrchafiad i fod yn swyddog elusenol a chofrestrydd priodasau yn Mon (Undeb Caernarfon). Y cadeirydd ydoedd y Parch W. Davies (gweinidog), a chymerwyd rhan gan y Cynghorwyr Elias Jones, J. E. Jones, Mri. Griffith Hughes, Pisgah; William Roberts, Brynnaidhir; Richard G. Jones, G. T. Jones, D. W. Humphreys, R. R. Lloyd, ac Ephraim Jones. Cyfeiliwyd gan Mr John William Roberts, Glynllifon.[2]
Aeth ati yr un mor frwdfrydig i chwarae ei ran ym Môn, er iddo geisio dychwelyd i'w ardal enedigol pan hysbyswyd am swyddog elusennol Llandwrog gan ei fod yn hŷn na'r oedran yr hysbyswyd amdani - er i'r penderfyniad i'w wahardd rhag ymddangos ar y rhestr fer achosi cyfarfod ystormus iawn o'r Gwarcheidwaid.[3] Fel y digwyddodd pethau, arhosodd yn ei swydd ynm Môn am weddill ei yrfa.[4]