Melin y Bont-faen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:58, 19 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin ŷd oedd Melin y Bont-faen. Erbyn hyn, dim ond fferm Pont-faen sydd ar y safle. Hon oedd y felin olaf ar lan Afon Gwyrfai cyn iddi gyrraedd ei haber yn Y Foryd. Roedd ffos yn cludo dŵr iddi o'r afon ger Tŷ Cerrig (yr ochr uchaf i Bont Faen), er bod yna ffrwd felin (sef mill-race) hefyd a oedd yn dod yn syth o'r afon ger y felin. Roedd y felin yn sefyll ochr Uwchgwyrfai i'r afon, ac ar ffin Uwchgwyrfai felly, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan.

Fe'i hadeiladwyd gan Richard Evans, Elernion, a ficer Llanaelhaearn tua dechrau'r 17g yn lle Melin Cae Mawr a safai tua 2 filltir i fyny'r afon ac a oedd wedi mynd i gyflwr drwg. Roedd safle Melin y Bont-faen hefyd yn fwy cyfleus i'r amaethwyr lleol. Bu'n malu tan oddeutu 1904.[1]. Mae map dyddiedig 1914 yn dangos y felin fel un nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach.[2] Ym 1889, ceir nodyn mai John Huxley oedd y melinydd yno.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, Arolwg 1914, cyhoeddwyd 19920.
  3. Cyfarwyddiadur Masnach Sutton ar gyfer 1889-90 (o dan 'Llanwnda')