Rheilffordd Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:37, 27 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Wagen o Reilffordd Nantlle yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Ffoto:Dan Crow. Comins Creu CC BY-SA 3.0
Y 'run' yn ei ddyddiau olaf. Ffoto:Geoff Charles. Llun LLGC. Comins Creu CC BY-SA 3.0


Yr oedd Rheilffordd Nantlle yn rhedeg o Gei Caernarfon hyd at chwareli Dyffryn Nantlle. Daeth symbyliad i godi'r lein o'r ffaith fod y ffyrdd o'r chwareli i'r cei yng Nghaernarfon yn wael, rhaid oedd talu tollau ar y Ffyrdd Tyrpeg newydd, a'r ffaith fod angen nifer helaeth o geffylau i wasanaethu'r fasnach gynyddol. Ar ôl i'r syniad godi'n gyntaf ym 1813, aeth ati i sicrhau deddf seneddol i ganiatáu'r gwaith, a chafwyd honno ym 1825. Ffurfiwyd cwmni gyda o leiaf hanner y cyfranddaliadau yn dod o'r ardal neu âdiddordebau yn y fasnach lechi.[1]

Hi oedd y rheilffordd gyhoeddus gyntaf i'w hagor yng Ngogledd Orllewin Cymru dan ddeddf seneddol, a hynny ym 1828, a chafwyd help a chyngor sylweddol gan George a Robert Stevenson, yr arloeswyr rheilffyrdd, wedi i'r ymgynghorydd gwreiddiol (Roger Hopkins, y peiriannydd camlesi) greu trafferthion trwy argymell adeiladu plâtffordd. Argymhelliad y brodyr Stevenson oedd defnyddio rheiliau (sef "rheiliau ochr" neu edge rails) y rhedai cerbydau arnynt, yn hytrach na "phlatiau" haearn bwrw a ffurfiai gafn y byddai'r olwyn yn rhedeg y tu fewn iddi, dull llawer llai effeithiol. Y lled rhwng y cledrau oedd 3'6".

Er bod awgrym yma ac acw bod pobl yn cael eu cludo trwy eistedd ar wagenni nwyddau, dim ond o 1856 ymlaen y sefydlwyd gwasanaethau swyddogol i deithwyr, gan ddyn a gymerodd brydles ar y lein y pryd hynny, sef Edward Preston. Ym 1857, mae Tywyslyfr Bradshaw yn dangos bod gwasanaeth trên yn cychwyn o Ben-y-groes am 11.15 y bore, a choets fawr o Borthmadog, oedd yn cycghwyn am 8.45 y bore yn cysylltu gyda'r trên. Gadawodd drên Gaernarfon am 4.45 y pnawn a'r goets oedd yn aros amdani'n cyrraedd Porthmadog erbyn 8 y nos. Y tâl am deithio o Borthmadog i Ben-y-groes eodd 3s.6c (17.5c) y tu allan (sef ar setiau heb do), a 4s. (20c.) am sêt y tu mewn i'r goets. Y tâl am fynd ymlaen hyd at Gaernarfon oedd 6c. yn ychwanegol i'r rhai oedd wedi teithio y tu fewn i'r goets a 3c. i'r rhai a oedd wedi teithio y tu allan - sydd yn tueddu awgrymu fod o leiaf ddau dosbarth o gerbyn i deithwyr ar Reilffordd Nantlle.[2]

Parhaodd y gwasanaeth i deithwyr nes i'r lein gael ei phrynu gan hyrwyddwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon tua 1863, a'r rhan helaeth o'r trac yn cael ei ledu i'r lled safonol o 4'8 1/2". Mae yna amheuon cryf mai dyna oedd nod ac uchelgais Preston ers iddo gymryd at yr awennau. Roedd y lein yn mynd o giât Chwarel Pen-yr-orsedd ger Rhesdai Nantlle, trwy'r hyn sydd yn weddill o Chwarel Dorothea heddiw, ymlaen wrth ochr prif stryd Tal-y-sarn ac o'r fan honno ar hyd lein yr hyn a fyddai'n lein fawr wedyn at y cei yng Nghaernarfon. Mae modd dilyn yr union lwybr yn hawdd wrth gerdded Lôn Eifion. Arhosai ychydig o'r lein o Orsaf Nantlle (yn Nhal-y-sarn) hyd at y chwareli llechi a wasanaethid ganddi hyd yr 1960au. Ceffylau oedd yn tynnu'r wagenni trwy gydol oes y lein, a dyna'r unig lein o eiddo Rheilffyrdd Prydeinig i gael ei gweithio yn y fath fodd erbyn hynny. Dim ond am ryw bedwar mis cyn cau'r lein yn derfynnol ym 1963 y tröwyd at dractor i dynnu'r wagenni - roedd hi wedi mynd yn rhy gostus i fwydo'r ddau ceffyl.

Dull tyrpeg oedd dull rhedeg y lein, gyda'r hawl i unrhyw un osod wagen ar y cledrau a'i symud yn unol â'r amserlen, ond iddo/i dalu'r doll ddyledus. Erbyn y diwedd, ym 1963, dim ond Chwareli Pen-yr-orsedd a Dorothea oedd yn arddel perchnogaeth ar eu wagenni. Trefnwyd yr amserlen fel na fyddai wagenni yn cwrdd â'i gilydd, trwy ganiatáu i drenau fynd i lawr i Gaernarfon am dair awr, ac wedyn cafwyd tair awr pan fyddai trenau'n cael rhedeg i fyny'r lein i gyfeiriad Nantlle; ac felly ymlaen.

Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur arw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar wagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.

Roedd nifer helaeth o ganghennau a thramffyrdd yn ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle yn arwain at y gwahanol chwareli, er, y tu fewn i'r chwareli, defnyddid wagenni ar gledrau culach (sef tua 2'0") er mwyn cyrraedd y ponciau a'r silffoedd culion ar ymyl y tyllau chwarel. Yr unig gangen o sylwedd oedd Tramffordd Chwarel Tan'rallt. Rhestrir chwareli eraill oedd â thrac 3'6" ac a gysylltwyd â phrif lein Rheilffordd Nantlle yn erthygl Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle.

Ymysg y gorsafoedd i deithwyr roedd y Bontnewydd, Pwllhwli Road (Llanwnda), y Groeslon a Phen-y-groes.[3][4]

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl ar wahân ar y cyfranddalwyr
  2. George Bradshaw, Bradshaw's through route railway guide, Issue 10 (Llundain, 1857), t.79
  3. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Wales, (Oakwood, 1981), passim.
  4. G.H. Williams, Sŵn y Tren sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018), passim.