Telyrniau
Tafarn ger safle Tyrpeg Gelli ar dir fferm Gelli-ffrydiau oedd Telyrniau, a hynny tua chanol y 18g. Meddir mai'r dafarnwraig oedd Marged uch Ifan, y ddynes dalentog a chryf chwedlonol tra bod hi'n byw yn Nyffryn Nantlle, efallai am rai blynyddoedd wedi 1760.[1]. Dywedir y byddai Marged yn chwarae ei thelyn a'i chrwth o flaen y drws a'r cwsmeriaid yn dawnsio o'i chwmpas pan oedd yr hin yn caniatáu.[2]
Lluosog "talwrn" (a all olygu cwt neu glôs ymladd ceiliogod) yw "talyrnau", ac mae'n bosibl mai dyna ystyr Telyrniau. Byddai hynny'n gydnaws â man lle gwerthid diod.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma