Telyrniau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:24, 11 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ger saflen Dyrpeg Gelli ar dir fferm Gelli-ffrydiau oedd Talyrniau, a hynny tua chanol y 18g. Meddir mai'r dafarnwraig oedd Marged uch Ifan, y ddynes dalentog a chryf chwedlonol tra bod hi'n byw yn Nyffryn Nantlle. Dywedir y byddai Marged yn chwarae ei thelyn a'i chrwth o flaen y drws a'r cwsmeriaid yn dawnsio o'i chwmpas pan oedd yr hin yn caniatáu.