Merbwll

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:13, 11 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy bychan unllawr ym mhlwyf Llanaelhaearn yw Merbwll. Cafodd y rhan ganol, a adeiladwyd gyda cherrig mawr, ei godi yn yr 16g os nad yn gynharach. Cafodd y lle tân, sy'n llenwi holl led y talcen uchaf, ei adeiladu'n ddiweddarach. Cafodd yr adeilad ei doi â gwellt yn wreiddiol ac yna gyda llechi bychan, trwchus yn y 18g mae'n debyg.