Tyddyn Gwian

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:06, 5 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar un adeg safai dau dyddyn, Tyddyn Gwian Isaf a Tyddyn Gwian Uchaf heb fod ymhell o Glynllifon - bellach cofir amdanynt yn unig fel enw ar ran o Barc Glynllifon. Cofnodwyd Tyddyn Gwian issa / Tyddyn Gwian ucha ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru), a gwelwyd y cyfeiriad olaf at y tai hyn ym mhapurau Porth yr Aur ym 1824. Dichon iddynt gael eu chwalu yn fuan wedyn wrth i barc Glynllifon gael ei ddatblygu'n helaeth. Parc Tyddyn-Gwian / Tyddyn-Gwian-Plantation sydd ar fapiau Ordnans 1920 a 1959. Ar y mapiau Ordnans cyfredol nodir Tyddyn-Gwian-Plantation ar dir y plas. Amrywiad ar yr enw personol gwrywaidd Gwion yw Gwian, a gwelir y ddwy ffurf yn weddol gyffredin yn enwau lleoedd ledled Cymru. Mor gynnar â 1352 yn The Record of Caernarvon ceir yr enw personol Gwion, lle cyfeirir at wely (sef tir a ddelid gan nifer o bobl yn perthyn i'w gilydd) dyn o'r enw Roppt [Robert] ap Wyan yn Nanhoron yn Llŷn. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.245-6.