Hafod Boeth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:21, 17 Mawrth 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif fferm Hafod Boeth ar gyrion Y Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. Cyfeirir at y lle fel havod boeth mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir.

Elfen gyntaf Hafod Boeth yw hafod < haf + bod, sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw Hafod ar lechweddau Uwchgwyrfai. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw Hafod, + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel ac yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen boeth yn enw Hafod Boeth gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.