J. Collis Browne

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:52, 22 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Dr John Collis Browne (1819-1884) a hani o Maidstone yn Swydd Caint[1] yn llawfeddyg gyda’r fyddin Brydeinig yn India. Dyfeisiodd Chlorodyne, sef ffisig i wrthsefyll y colera ym 1848, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth yn ystod Rhyfel y Crimea. Roedd yn gymysgedd o forffin, clorofform a chanabis, ac er bod rhai o’r cynhwysion wedi newid, mae’n dal ar werth heddiw.

Gadawodd y fyddin ym 1856, a mynd i bartneriaeth gyda fferyllydd o’r enw Davenport er mwyn marchnata ei ffisig yn eang.

Bu’n ddyfeisydd nifer o declynnau, yn arbennig rhai ar gyfer iotiau.

Ei berthnasedd i Uwchgwyrfai yw’r ffaith ei fod wedi datblygu neu agor mwynfa haearn o dan y môr yn Nhrefor tua 1870. Dichon ei fod yn gysylltiedig â’r cloddfeydd ar ben creigiau Y Gorllwyn sydd yn dyddio o’r un amser, oherwydd ym 1872, trefnodd James Clark gludo 500 tunnell o fwynau haearn “o Fwynfa Fwyn Haearn Dr J. Collis Browne sydd o dan y môr” ar hyd “Rheilffordd y Morfa” a oedd newydd gael ei hailadeiladu, hyd at Harbwr Trefor.[2]

Tua’r adeg honno roedd yn ymwneud â gwaith cloddio mwynau yn Sir y Fflint hefyd, fel aelod o gonsortiwm o bum dyn (pedwar fel ef ei hun o Lundain) a gymerodd brydles ar fwynfeydd plwm a chopr ym mhlwyf Llanelwy ym 1870.[3] Nid yw’n hysbys beth a ddenodd i Ogledd Cymru o gwbl. Roedd dynion cefnog yn aml yn mentro eu pres ar sail addewid o gyfoeth mawr a fyddai’n dod o fwyngloddio,. Ac roedd digon o hwnnw yng Ngogledd Cymru. A thybed a oedd ei ddiddordeb mewn hwylio a’i ddyfeisiau i helpu morwyr pleser wedi dod â fo i gysylltiad â Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, iotiwr mawr a pherchennog tiroedd yn Nhrefor - ond tybio heb dystiolaeth yw hynny.

Bu farw yn Ramsgate, Swydd Caint ym 1884. [4]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Casgliadau'r Amgueddfeydd Gwyddoniaeth [1], cyrchwyd 22.2.2024
  2. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271
  3. LlGC Papurau Plas-yn-Cefn 1370
  4. Erthygl Wikipedia ar J. Collis Browne [2] ac ar Chlorodyne [3], cyrchwyd 22.2.2024