Odyn friciau Dinas Dinlle
Ar fap Ordnans 1888 gwelir man yn Ninas Dinlle a ddisgrifiwyd ar y map fel old brick kiln. Mae'n debyg fod hyn yn golygu bod yr odyn friciau hon wedi cau i lawr amser sylweddol cyn hynny. Roedd y safle ychydig i'r gogledd o'r hen Blas Tan Dinas sydd bellach wedi ei ddymchwel.
Mae'n debyg bod clai addas ar gyfer gwneud briciau yn y lleoliad hwn, a dyma'r unig waith briciau y gwyddom amdano yn Uwchgwyrfai heblaw am y gwaith diweddarach o wneud briciau o lwch ithfaen yn Chwarel yr Eifl yn Nhrefor. Roedd digon o glai i'w gael ar lannau Afon Seiont ger Caernarfon, lle ceid dwy ffatri, Gwaith Briciau Seiont a Gwaith Briciau Peblig. Roedd ganddynt ddwy fantais fawr: roeddent wrth ochr rheilffordd a ddeuai glo i mewn a chario'r briciau ymlaith, ac roedd digonedd o glai dan y ddaear y gellid ei chwarelu. Roedd hen waith briciau yn nes at Ddinas Dinlle, ac ychydig dros y ffin rhwng Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai, sef Gwaith Briciau Llwyn-ynn ger fferm Cefn Ynysoedd. Roedd pwll clai gerllaw, sef ar dir Cae'r Efail, Llanfaglan.[1]
Gallwn ddychmygu felly fod gwaith briciau Dinas Dinlle wedi methu â chystadlu â'r gweithiau mwy, yn arbennig wedi i'r rheilffyrdd gyrraedd fel nad oedd angen bellach fod o fewn cyrraedd harbwr neu draeth gwastad i gludo deunyddiau mewn llongau bach.
Cyfeiriadau
- ↑ Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, 1888