Pont Mur-y-goeden
Saif Pont Mur-y-goeden ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Lŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch, ger Bwlch Siwncwl rhwng Yr Eifl a Mynydd Carnguwch. Mae'n nodi'r ffin rhwng plwyf Llanaelhaearn a phlwyf Carnguwch (sydd bellach wedi uno â phlwyf Pistyll, a chario enw Pistyll wedi'r uniad). Mae hefyd yn nodi'r ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Din-lläen, yn ogystal, felly, â'r ffin rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei bod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ag Eifionydd gyda sarnau ar bob pen.
Daw enw'r bont o enw'r tyddyn bychan gerllaw, sef Mur y Goeden. Yno, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y trigai Thomas Williams a oedd yn fasnachwr prysur i boblogaeth amaethyddol y ddwy ochr i'r Eifl. gwelir ei adfeilion yn amlwg o hyd.