Cilhaul

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:59, 12 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cilhaul yn fferm fechan ym mhlwyf Llanwnda ger glannau Afon Gwyrfai, nid nepell o Bont Cyrnant. Mae'n debyg mai cyfeirio at ei leoliad ar lethr coediog yn wynebu'r Gogledd y mae'r enw, gan nad yw fel arfer yn llygad yr haul. Arferai fod yn rhan o eiddo Gwredog, rhwng Gwredog Bach a Gwredog Uchaf. Roedd yn rhan o ystad Henry Rumsey Williams yn y 19g. hyd nes iddi gael ei gwerthu, ar y cyd â Gwredog Bach, ym 1871.[1] Roedd Cilhaul yn cael ei ffermio gan denant, sef Griffith Ellis, Cilhaul ac wedyn ei fab, Griffith Ellis arall, bron gydol y 19g. Rhwng y ddwy fferm, roedd tua 75 erw o dir. Roedd Griffith Ellis y tad yn enwog trwy Ogledd Cymru fel un a oedd yn gallu "witsio".

Cyfeiriadau

  1. Y Goleuad, 26.8.1871, t.14