Maenor Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:13, 28 Tachwedd 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir cyfeiriadau at uned o'r enw Maenor Uwchgwyrfai weithiau. Nid oedd maenorau'n bodoli dan y tywysogion. Yn Lloegr yn y Canol Oesoedd (ac wedyn) roedd maenorau'n bwysig fel yr uned sylfaenol mewn rheolaeth a chymdeithas. Yn arferol, byddai maenor yn cynnwys plasdy arglwydd y faenor, nifer o gaeau a rennid yn leiniau a'u gosod i drigolion y faenor eu haemaethu, a tir gwast lle gellid pori anifeiliaid, hel coed tân ac ati. Rheolid y faenor trwy gynnal llysoedd maenorol. Ni cheid trefn mor gaeth â hyn yng Nghymru, lle ceid trefgorddi dynion caeth a threfgorddi dynion rhydd, gyda nifer o drefgorddi ym mhob cwmwd, sef yr uned leiaf ar gyfer rheolaeth leol nes i blwyfi ddatblygu tua'r 15g. Roedd y drefgordd yn uned ar gyfer codi trethi, ond trafodid popeth arall yn llysoedd y cwmwd.

Roedd llawer o fân faterion ynglŷn â daliadaeth tir a materion megis tresbas wedi cael eu trafod mewn llysoedd maenorol yn Lloegr ers y Canol Oesoedd a chan fod y drefn yng Nghymru’n gorfod cydymffurfio â’r hyn ydoedd yn Lloegr ar ôl pasio'r Deddfau Uno ym 1536 a 1543, rhaid oedd cynnal llysoedd maenorol. Yr unig broblem oedd nad oedd y cysyniad o faenor (sef tir a reolid gan arglwydd y faenor) yn bodoli yng Nghymru cyn 1284 ac, ar ôl hynny, dim ond y trefi caeth a oedd yn gysylltiedig â phlasau’r tywysogion a’r sefydliadau crefyddol a gafodd eu hystyried fel maenorau – megis Maenol Bangor (tir Esgobaeth Bangor) neu Abergwyngregyn. Nid oedd tir cyffelyb yn Uwchgwyrfai ac felly rhaid oedd creu maenor “ffug” at ddibenion y drefn newydd.[1]

Mae hanesydd y llysoedd, y diweddar Athro W. Ogwen Williams, yn nodi nad oes ond ambell i gyfeiriad at y maenorau "ffug" hyn, ond mae o'n awgrymu eu bod yn weithredol ac yn rhoi cyfle i dirfeddianwyr yr ystadau fanteisio ar y drefn newydd trwy eu cynnal a chodi ffioedd ar y rhai oedd yn derbyn tenantiaeth newydd ar diroedd oedd wedi bod yn eiddo i'r tywysogion gynt ac wedi mynd yn dir y Goron dan y drefn newydd o 1536 ymlaen. Yn y bôn, os oedd tir heb ei amgáu ac yn cael ei ddefnyddio fel tir pori agored gan denantiaid y ffermydd cyfagos, fe'i ystyrid yn eiddo i'r Goron - ac yn wir, felly mae'r sefyllfa hyd heddiw yn Uwchgwyrfai, er na chynhaliwyd yr un llys maenorol ers dwy ganrif a mwy.

Penodwyd stiward neu feili ar gyfer Maenor Uwchgwyrfai ac mae’n bur sicr bod y stiward yn cynnal llysoedd maenorol i drafod materion sifil ynglŷn â’r tir comin ac ati yn gyson. Ymysg ei ddyletswyddau eraill oedd bod yn bresennol yn eisteddiadau y Llys Chwarter newydd a sefydlwyd tua 1541, lle roedd ynadon y sir yn gweinyddu eu dyletswyddau newydd. Ymysg papurau'r Llys Chwarter yn Archifdy Caernarfon, ceir rhestr ar gyfer pob eisteddiad (o'r enw "Nomina Miniostrorum" sef enwau'r rhai sy'n gorfod presenoli eu hunain). Ymysg swyddogion y sir yn y Nomina Ministrorum cynharaf sydd ar gael, dyddiedig Medi 1546, enwir Hywel ap Dafydd ap Llywelyn, stiward neu feili cwmwd Uwchgwyrfai.[2] Datblygodd y stiward yn y 18g yn asiant y Goron, ac er nad oedd y rhai a ddaliodd y swydd yn effeithlon iawn, aethant ati'n fwy cydwybodol wedi i'r chwareli llechi ddatblygu ar y comin agored.

Cyfeiriadau

  1. W. Ogwen Williams, Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records (Caernarfon, 1956), tt.li-liii
  2. W. Ogwen Williams, Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records (Caernarfon, 1956), t.32