Cefn Hengwrt

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 25 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cefn Hengwrt yn fferm nid nepell o bentref Llandwrog ac yn ymyl Pont Cae Doctor Bach ar y lôn isaf o Gaernarfon, er ei bod yn gorwedd o fewn ffiniau plwyf Llanwnda. Mae’r enw yn cyfeirio at y ffaith ei bod yn weddol agos at hen luest Abaty Aberconwy, sef Rhedynog Felen; arferid yn aml defnyddio’r term “Cwrt” am safleoedd mynachaidd fel honno.[1]

Ym 1757 ceir sôn am yr enw am y tro cyntaf, ac mae’n debyg ei fod yn enw cae i ddechrau, gan y sonnir am Cae Cefn’r Hendre a Gweirglodd Cefn Hendre mewn gweithred ddyddiedig y flwyddyn honno. Nodwyd ffurf Cevefn yr Hengwrt gan Dr Carr ym 1770 a Cefn Renggwrd ym 1777.[2]

Mae’r weithred o 1757 y soniwyd amdani eisoes yn ddiddorol gan mai trosglwyddiad o ffermydd Tyddyn Pengwern neu Dŷ’n Rhos a Tyddyn Bach neu Glanrafon, stordy a chaeau ydyw gan Lewis Williams, Rhedynog Felen, gŵr bonheddig, i’w frawd-yng-nghyfraith, William Williams, iwmon o Redynog Felen a’i wraig Elizabeth (sef chwaer Lewis). Mae’n bur sicr mai dyma drefniant a wnaed yn sgil priodas chwaer y sgweier a William Williams. Parti arall i’r weithred oedd Morris Williams, iwmon o Ddinas; gall mai tad William ydoedd. Cyn hyn, roedd y tiroedd a roddwyd i’w frawd-yng-nghyfraith yn rhan o ystâd Rhedynog Felen a etifeddwyd gan Lewis ar ôl ei rieni, William Owen a Catherine Hughes. Gan nad oes sôn am Gefn Hengwrt fel tŷ neu fferm cyn 1800, mae’n debyg mai William Williams a gododd y tŷ rhwng 1757 a phryd bynnag y bu farw. Gyda llaw, nid oedd Tyddyn Pengwern yn gysylltiedig, hyd y gwyddys, â'r Pengwern, fferm arall yn Llanwnda.

Y mae gweithredoedd yr ystad yn y cyfnod yn rhestru pob cae ac adeilad, a gellir casglu bod gwerth y tiroedd a wahanwyd oddi wrth diroedd Rhedynog Felen yn ymestyn i rai cannoedd o aceri a’u gwerth ar y dechrau efallai’n £60. Yn ôl y gweithredoedd, roedd 4 ffermdy, 3 bwthyn, 4 gardd, 2 berllan, 100 erw o dir, 50 erw o ddolydd, 80 erw o dir pori, 4 erw o goedwig, 80 erw o dir wast a hawl i bori ar y tir comin. Erbyn troad y ganrif, roedd Cefn Hengwrt wedi ei godi ynghyd ag o leiaf un tŷ arall a enwyd yn Tŷ’n Lôn, ac roedd y perchennog, William Williams (a aned tua 1758 ac yn fab i’r William Williams y soniwyd amdano ym 1757, mae’n debyg) yn gallu benthyca £600 ar ffurf morgais gyda’r tiroedd hyn yn gwarantu sicrwydd y cai’r sawl a fenthycodd yr arian, John Williams o Drefan, Sir Fôn, ei arian yn ôl. Dichon mai sicrhau arian i dalu am yr adeiladau newydd oedd diben y morgais. Ysywaeth, aeth William Williams yn ddyfnach i gors ariannol, a chynyddwyd y morgais i £950 ym 1803 ac i £1200 ym 1806.[3]

Mae nifer o lythyrau wedi goroesi rhwng y William Williams hwn a’i fab, William Williams arall a oedd wedi mynd yn forwr ar yr un llaw, a Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough a’i frawd, Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough. Ymddengys fod y tad wedi methu cadw at ei ymrwymiad i dalu llog ar y morgais, ac fe’i taflwyd i Garchar Caernarfon fel dyledwr a chan nad oedd yn gallu codi digon o arian i sicrhau ei ryddid, treuliodd o 1817 hyd ei farwolaeth yn Ebrill 1836 yn y carchar.[4] Ceisiodd werthu ei hawliau i Gefn Hengwrt i Arglwydd Newborough ym 1824[5] ac er i’r mater gael ei drafod y pryd hynny gan asiantwyr yr ystad, roedd hi’n 1833 cyn i Ystad Glynllifon brynu Cefn Hengwrt trwy gymryd y morgais drosodd a dod â fo i ben.[6] Erbyn 1835, mae’n ymddangos fod William Williams, y morwr a mab y sawl oedd wedi bod yn y carchar gyhyd, yn denant i’r Arglwydd Newborough yng Nghefn Hengwrt,[7] ond ni arhosodd yno'n hir.

Erbyn 1841, pan wnaed y cyfrifiad cyntaf, Richard Williams, gŵr hanner cant oed a aned yn Llangybi oedd y tenant, gyda’i wraig a dau o blant yn byw gydag ef. Roedd y teulu wedi dod o ardal Clynnog Fawr. Roedd yr un teulu yno ym 1851 ac 1861, ond erbyn 1871, Evan Jones, yntau o Glynnog, yn 42 oed, oedd wedi cymryd y denantiaeth. Mae oedran a man geni ei blant yn tueddu awgrymu ei fod wedi symud i Gefn Hengwrt rywbryd tua 1868. Nodir yng Nghyfrifiad 1871 mai maint y fferm oedd 57 o erwau. Erbyn 1881 roedd y teulu’n dal yno, wedi ei gynyddu i wyth o blant rhwng 7 a 28 oed - ac roedd maint y fferm wedi ei gynyddu i 67 erw. Bu farw Evan Jones yn 70 oed ar ddechrau 1899,[8] ac roedd y mab hynaf, William, wedi cymryd at y denantiaeth. Ni phriododd William ac roedd yn dal yno gyda’i chwaer Magdalen ym 1911,[9] ond bu farw ym 1915, a gwerthwyd yr holl stoc oedd ganddo ar y fferm fis Hydref y flwyddyn honno. Mae’n werth atgynhyrchu hysbyseb yr arwerthiant yma gan ei fod yn rhoi argraff o lefel yr amaethu a oedd yn bodoli yng Nghefn Hengwrt:

CEFN HENGWRT, LLANWNDA. DYDD MAWRTH, HYDREF 12fed, 1915. 
Arwerthiant pwysig ar yr Holl Stoc, eiddo y diweddar Mr Wm. Jones.
Cyfarwyddir Mr ROBT. G. JONES i werthu ar Auction yr Holl Stoc Gampus, sef 21 o Wartheg, 5 o Fuchod, un a Llo wrth ei thraed, un i dd'od at Tachwedd, dwy i dd'od at ddechreu y gwanwyn; 1 Henllo; 4 o Ddynewid beinw, a 2 o rai gyrfod; 21 o Ddefaid Cymreig, wedi cael Myharen; Hwch Dorog: Caseg (wedi cael Ceffyl y Gymdeithas); Cyw addawol; Caseg arall hwylus ymhob gwaith. Yr Holl Offerynau, Scuffler, Engine Dori Gwair (Albion) mewn cyflwr da; 3 Aradr; Og Biga tri darn; Roller; Car Marchnad; Dog Cart gyda Rubber tyres; 2 Drol (un yn newydd a'r llall mewn cyflwr da); 2 Ffrâm; 2 Chaffcutter; 2 Scrapper; Nithiwr, 2 set Ger Bon, 1 set Ger blaen, 2 Set o Harness, 2 Ffrwyn Oleu, 2 Ffrwyn Dywyll, 2 Goller, Cyfrwy, Tresi Aredig, Cistiau blawd; Casgeni, 2 Garn Mochyn, Llusgan, Berfa, Lli Drawst, Boiler, Ffyrch Gwair, Maen Llifo, 3 Ystol, 2 Bladur, ac amryw o fan gelfi eraill. Yr Holl Gropiau. 51 Rhes o Rwdins, 10 Rhes o Fangels, 1 Rhes o Foron, 40 Rhes o Bytatws.[10] 

Erbyn 1921, roedd tenantiaid newydd yno. Cafodd mab y fferm, R.W. Owen, ei esgusodi gan dribiwnlys yng Nghaernarfon rhag ymuno â’r fyddin am 6 mis, a hynny ym 1917.[11]

Yn nes ymlaen yn y ganrif daeth y teulu a oedd yn byw yng Nghefn Hengwrt ar y pryd amlygrwydd trwy i Katie Wyn Jones a’i phlant gael eu dewis i chwarae rhannau pwysig yn y ffilm A Letter from Wales.[12]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.111-12
  2. Glenda Carr, op.cit., t.112
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/7424-7440
  4. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Claddu plwyf Llanwnda
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/15712
  6. Archifdy Caernarfon, XD2/17451
  7. Archifdy Caernarfon, XD2/18151, 18189
  8. North Wales Express, 6/1/1899, t.8
  9. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1911
  10. Y Genedl, 28/9/1915, t.4
  11. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1921; Yr Herald Cymreig, 26/6/1917, t.4
  12. Gwefan IMDb, [1], cyrchwyd 23/10/2023