Wal Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:24, 14 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Wal Glynllifon yn adeilad rhestredig (gradd II) a adeiladwyd o gwmpas 1836, tua’r ‘run adeg ag ail-adeiladu plasty Glynllifon. Gellir gweld y wal ar hyd yr A499 a'r A487. Mae’n wal rwbel sydd tua 10 kilometr mewn hyd, ac i fyny i 4 medr o uchder ar ei phwynt uchaf.

Dywedir iddi gymryd 7 mlynedd i'w chodi, ac roedd sicrhau ffiniau rhesymegol i'r parc a gafodd ei amgáu yn golygu cryn dipyn o ffeirio a phwrcasu tir. Mae pedwar porth yn y wal yn ogystal â dau neu dri o ddrysau (nad ydynt yn cael eu hagor mwyach). Mae pedwar o'r pum porthdy yn dal i gael eu defnyddio: y prif borthdy, porthdy ar waelod Allt Cefn Glyn ger Groeslon Ffrwd, porthdy ar waelod Allt Goch (y tri hyn ar brif lôn Pwllheli; a phorthdy'r dde. Mae'r porthdy a safai ger ochr ddwyrain y wal wedi ei chwalu ers rnai blynyddoedd er i'r porth ei hun ddal i sefyll ger lôn Porthmadog, nid nepell o Groesfan Glynllifon a Gwaith llechi Inigo Jones. Gwnaed dau fwlch yn y wal yn ystod y blynyddoedd diwethaf - un ar gyfer perchnogion Plas Newydd wedi i'r tŷ hwnnw gael ei werthu yn y 1980au, ac un arall tua 2012 ar gyfer creu mynediad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae darn o'r wal rhwng cylchfan Y Groeslon a gwaith llechi Inigo Jones wedi ei ail-adeiladu ar linell newydd er mwyn gwneud lle i'r ffordd osgoi newydd.

Cyfeiriadau