Elusen Dr Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:47, 19 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cafodd Elusen Dr Lewis ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llundain. Nid yw'n glir o'i ewyllys o ba le yng Ngogledd Cymru yr hanodd, ond mae cliw, efallai, yn y ffaith mai un o ddarpariaethau gwreiddiol ei ewyllys oedd talu am bregethau blynyddol yn eglwysi Llangristiolus a Cherrig Ceinwen yn Ynys Môn. £3000 oedd y gwaddoliad gwreiddiol. Roedd hynny'n swm anferthol y pryd hynny, yn arbennig felly gan fod nifer o gymunroddion hael i neiaint a nithoedd Dr Lewis yn yr ewyllys hefyd, a'r ffaith fod y £3000 i'w talu mewn arian o fewn tri mis i'w farwolaeth. Enwyd nifer o brif dirfeddianwyr Môn ynghyd ag Esgobion Bangor, Llanelwy a Rochester fel ymddiriedolwyr. Prif ddibenion yr elusen oedd talu am gynhaliaeth, addysg a phrentisio ar gyfer dau fachgen dlawd o Gerrig Ceinwen; talu am ysgoloriaeth i bedwar bachgen tlawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a phedwar yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (gyda'r flaenoriaeth i gael ei roi i fyfyrwyr o Fôn ac wedyn i rai o Ogledd Cymru); a thalu blwydd-dal i chwe gweddw gweinidog tlawd. Rioedds yr arian i gael ei ddefnyddio i brynu eiddo a fyddai'n cynhyrchu incwm blynyddol.[1]

Sefydlwyd yr elusen, ac yn groes i'r rhan fwyaf o elusennau a sefydlwyd ers canrifoedd, mae'n parhau mewn bodolaeth, er bod yr incwm erbyn hyn ond ychydig o gannoedd y flwyddyn. Mae hysbyseb gan glerc yr elusen, John Thomas, Stryd y Farchnad, Caernarfon, yn y North Wales Chronicle[2] yn gofyn am geisiadau gan ddynion ifanc sydd am fynd yn brentis. Ar yr un dudalen, nodir bod pwyllgor yr elusen ar gyfer gweddwon a phlant amddifaid clerigwyr am gyfarfod, a bron yn sicr, sôn am pwyllgor yr ymddiriedolwyr sydd yma. Erbyn heddiw, Esgob Bangor yw'r unig ymddiriedolwr.

Mae sôn am yr elusen yn berthnasol i Uwchgwyrfai gan fod yr ymddirioedolwyr wedi prynu eiddo mhlwyf Llanaelhaearn er mwyn buddsoddi peth o'r arian. Erbyn adeg y degwm tua 1840, roedd ffermydd Cwm Ceiliog, Ynys Goch, Cefn Bronmiod, Tyddyn Coch, Terfyn, Tŷ'n y Graig, Tyddyn y felin, a Thyddyn yr Eglwys,,yn eiddo i'r elusen, a dichon mai'r ystad gyfan a brynwyd tua 1683.[3]

Cyfeiriadau

  1. Yr Archifdy Gwladol, PROB 11/372/324
  2. North Wales Chronicle, 31.7.1869, t.1
  3. LlGC, Dogfen Pennu'r Degwm ar gyer plwyf Llanaelhaearn