Sam Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:59, 20 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saer coed oedd Samuel Roberts yn gweithio yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Ef oedd fforman y seiri coed yn y Gwaith.

Fe'i ganwyd ym 1861 yn Llanrwst a daeth i Drefor o Lanfairfechan. Ym 1880 priododd ag Elizabeth Williams, athrawes yn Ysgol Trefor, a chwaer John Edward Williams, prifathro cynta'r ysgol ym 1878. Roedd Sam Roberts yn aelod selog o Eglwys San Siôr, Trefor ac yn un o'r rheiny a fu'n amlwg yn y symudiad i adeiladu'r eglwys yn y cyfnod 1879-81. Bu'n byw am y cyfnod dechreuol o'i briodas yn Nhŷ'r Ysgol yn Nhrefor, tŷ oedd yn rhan o adeilad yr ysgol.

Roedd yn denorydd o gryn fri pan oedd yn ifanc a chanai'n rheolaidd mewn cyngherddau. Yn ogystal, roedd yn fardd pur dda ac yn gynganeddwr medrus. Un o'i gyfeillion pennaf yn Nhrefor oedd Henry T. Jones, 2 Farren Street, ac roedd y ddau yn aelodau blaenllaw o'r Fyddin Ddirwestol. Bu farw Henry'n ŵr ifanc yn Rhagfyr 1888, a chyfansoddodd Sam Roberts dri englyn er cof amdano.


Ei daro gadd Harri dirion - ow, sydyn
       Ymosodiad creulon;
   Dwyn ymaith ieuanc, llanc llon,
   O'r golwg, braw i'r galon.
Yn wastad ffyddlon ddirwestwr, - selog
       Dros hawliau'r gwrthodwr;
    Y cyntaf oedd fel cantwr
    I yrru'n dân - rin y dŵr.
Yn y côr fel byddai'n canu, - arwydd
      Gwna'i orau er dysgu;
   I uwch man gyda'i gân gu;
   E' groesodd at gôr Iesu.

Cyn diwedd y ganrif fe ymfudodd Samuel Roberts, fel llawer iawn o'i gyd-weithwyr, i America.