William John Davies (ymgymerwr llechi)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:44, 31 Awst 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed William John Davies ym 1890, yn fab i Frederick a Jane Ellen Davies. Fe'i hadnabuwyd yn gyffredinol fel "Wil John Fred".

Gweithiodd fel ymgymerwr chwareli, gan renti chwareli bach oedd wedi eu cau, a gosod dynion i weithio ar y tomenydd o lechi gwastraff i gynhyrchu "cerrig mân" wrth ail-weithio slabiau o lechen oedd wedi eu troi heibio. Bu ei ddynion yn ail-weithio tomenydd y Gloddfa Glai a Chwarel Tal-y-sarn ymysg eraill. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gosododd nifer llai o ddynion ar waith yn nhomenydd Chwarel Nant-y-fron gan fod llechen werdd yno ac roedd galw am llechi o'r lliw hwnnw. Trwy ddarparu gwaith i chwarelwyr di-waith y dyffryn yn ystod y Dirwasgiad bu'n gyfrwng i helpu sawl un er nad oedd y cyflog y gallai ei dalu'n fawr.

Sonnir ei fod yn dipyn o gymeriad, yn arbennig wrth iddo gynnal cwmni drama lleol. [1]

  1. J. Gwynfor Jones, Chwarelyddiaeth Dyffryn nantlle (Darlith Llyfrgell Pen-y-groes 2008, Caernarfon, 2008), tt.24-5