Côr Meibion Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:07, 30 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Côr Meibion Dyffryn Nantlle (neu Gôr Meibion Nantlle) yn perfformio a chystadlu yn ystod y 1880au os nad cyn hynny. Alexander Henderson, chwarelwr lleol a baswr nodedig, oedd yr arweinydd ym 1889 pan enillodd y côr yn Eisteddfod Llangefni, ac fe barhaodd yn y swydd honno hyd 1902 neu 1903. Ceir cofnod o 1894 fod Côr Meibion Dyffryn Nantlle wedi cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Tua 19102-3, dechreuodd J. Owen Jones fel arweinydd y Côr Meibion yn ei le.

Ail-sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.

Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth fyddai dod at ei gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.

Gwahoddwyd C.H. Leonard, brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan annatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Gelwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar.

Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr, a oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Dan ei arweiniad bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin ac Eidaleg, yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg.

Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu am y tro cyntaf, ac erbyn 1969 roedd wedi gwneud 300 o ddarllediadau, yn ogystal â thelediadau a chyngherddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr. [1]

Ceir cofnod fel a ganlyn yn y Radio Times am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937:

Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.[2]

Sinema'r Plaza oedd unig sinema'r cwmwd; roedd y tu ôl i dafarn y Victoria yng nghanol Pen-y-groes.


Ar ôl dyddiau C.H. Leonard, arweinid y côr gan Arthur Wyn Parry, ac wedyn gan Eurgain Eames, sydd yn dal wrth yr awenau.[3]

Cyfeiriadau