Tabun yn Ninas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:58, 27 Ebrill 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Maes Awyr Caernarfon (RAF Llandwrog yn wreiddiol), soniwyd fel y cludwyd bomiau Almaenig yn cynnwys nwy gwenwynig i'w cadw yn y maes awyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Dyma dipyn mwy o'r hanes.

Yn yr Almaen yn Rhagfyr 1936 (a'r wlad honno erbyn hynny'n cael ei rheoli gan yr unben Adolf Hitler a'r Blaid Natsïaidd) darganfuwyd cemegyn hynod wenwynig gan wyddonydd digon di-nod o'r enw Dr Gerhard Schrader. Rhoddwyd yr enw Tabun arno. Roedd mor wenwynig fel y gallai anadlu un miligram ohono yn unig, neu ddod i gysylltiad â'r croen, fod yn farwol i bobl. Roedd yn un o'r sylweddau hynny sy'n ymosod ar system nerfol y corff, gan achosi confylsiynau erchyll a mygu o fewn ychydig funudau. Roedd yn bur debyg o ran ei effeithiau i Sarin, a oedd yn fwy marwol fyth.

Cynhyrchwyd tunelli o'r cemegyn hwn gan y Drydedd Reich ar ffurf hylif a oedd yn cael ei dywallt i mewn i sieliau a bomiau confensiynol, a ollyngid o awyrennau. Byddai'r rhain wrth ffrwydro yn gwasgaru'r cemegion dros ardal eang. Diolch i'r drefn, ni ddefnyddiwyd yr arfau cemegol hyn, a hynny'n bennaf oherwydd bod uwch swyddogion y fyddin Almaenig yn ofni dialedd dychrynllyd y Cynghreiriaid ar ddinasoedd yr Almaen a'i phoblogaeth sifil pe baent yn eu defnyddio yn eu herbyn. Roedd Hitler ei hun hefyd yn wrthwynebus i ddefnyddio arfau cemegol oherwydd iddo gael ei ddallu am gyfnod gan nwy gwenwynig pan oedd yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fodd bynnag, roedd rhai o'r Natsïaid mwyaf penboeth eisiau defnyddio arfau cemegol yn ystod wythnosau olaf y rhyfel ond, yn ffodus iawn, ni ddigwyddodd hynny.

Wrth i fyddinoedd y Cynghreiriaid symud i mewn i'r Almaen yn 1945 daethant ar draws stociau enfawr o arfau cemegol - tabun, sarin a sylweddau eraill - mewn gwahanol fannau ar hyd a lled y wlad. Roedd penbleth fawr sut i ddelio â'r arfau enbyd hyn ac roedd yn rhaid rhoi sylw i'r sefyllfa yn ddiymdroi. Dyna pryd y daeth RAF Llandwrog, fel y'i gelwid bryd hynny, yn rhan o'r stori. Rhoddwyd Operation Dismal (enw priodol iawn ar yr ymgyrch filwrol hon) ar waith ym mis Hydref 1946 pryd y gwelwyd miloedd o fomiau 250kg i'w gollwng o awyrennau yn cael eu cludo ar longau o Hamburg i ddociau Casnewydd. Rhan nesaf y daith oedd eu cludo ar drenau dros nos oddi yno i Lanberis - roedd y teithiau hyn yn aml yn cymryd 3 diwrnod gan fod y trenau'n gorfod teithio'n araf iawn a dim ond yn y nos. O Lanberis cludwyd y bomiau mewn lorïau ar ran olaf eu taith i Ddinas Dinlle. Fel rheol byddai 10 lori ym mhob confoi a byddai'r heddlu, y gwasanaeth tân ac ambiwlans yn cyd-deithio â phob confoi a phan fyddent yn mynd trwy bentref Y Waunfawr byddai pobl a oedd yn byw ar bwys y ffordd fawr yn gorfod gadael eu cartrefi nes i'r cerbydau fynd heibio'n ddiogel.

Erbyn 13 Gorffennaf 1947 roedd 71,000 o fomiau'n cynnwys hylif tabun yn y maes awyr. Roedd y ffiwsys yn y bomiau o hyd a'r cam cyntaf oedd tynnu'r rhain i gyd yn ddiogel. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cedwid y bomiau ar y lleiniau glanio mewn cratiau pren. Ond wrth iddynt gael eu gadael yn agored i'r tywydd roedd perygl mawr iddynt ddechrau gollwng ac i geisio lliniaru hynny roeddent yn cael eu trochi mewn hylif gwlân-olew (lanolin). Roedd hwn yn waith anodd a pheryglus gyda'r gweithwyr yn gorfod gwisgo siwtiau diogelwch a orchuddiai bob modfedd ohonynt. Er gwaethaf y rhagofalon hyn, daeth yn amlwg na ellid gadael y bomiau'n hir yn yr awyr agored. Fe wnaeth rhai ollwng a phan ddigwyddai hynny torrid tyllau dwfn mewn man penodol ar gyrion y maes awyr ac yn agor y bomiau a thywallt y cynnwys i'r tyllau a'u gorchuddio â thywod a phridd.