Ivor Pugh

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 20 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ivor Pugh (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1922 hyd 1923. M<ab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd o ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu erbyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.[2]

Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.[3] Mae'n debyg iddo symud i Drefor i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.

Erbyn 1939, roedd wedi symud i Clitheroe yn Swydd Caerhirfryn, lle roedd yn ficer. Erbyn hynny, roedd wedi priodi. Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969.

Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig Morris Pugh, Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911
  2. Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanegryn
  3. Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911