Hugh Owen Parry (Homo Goch)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:06, 7 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarelwr ac amaethwr oedd Hugh Owen Parry (1838-?1906) a fabwysiadodd yr enw barddol "Homo Goch". fe'i ganed ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, o bosibl yn fab i Robert Parry (g.1799), gwas fferm a'i wraig Ann, Sarn Las, Llanidan.[1]. Mae'n bosibl mai ef oedd y Hugh Parry oedd yn was fferm 13 oed ar fferm Cefnmawr Isaf, Niwbwrch ym 1851.[2]

Erbyn 1871, roedd wedi priodi â Mary (1840-1907), merch o blwyf Penmorfa. Erbyn hynny, roedd Hugh Parry'n gweithio fel chwarelwr, gan fyw yn un o dai Tan-y-bwlch, Mynydd Llandygái.[3] Mae'n bosibl, fodd bynnag, os yw'r Cyfrifiad am 1881 yn gywir, bod y teulu wedi bod yn byw ym mhlwyf Clynnog Fawr cyn hynny, canys dyna'r plwyf lle cafodd eu hunig blentyn Ann Ellen Parry, ei geni ym 1867. Yn sicr, erbyn 1881 roedd y teulu wedi ymsefydlu'n barhaol yn fferm fach Pen-yr-yrfa yn y darn hwnnw o blwyf Clynnog a ddaeth wedyn yn rhan o blwyf Llanllyfni - er Pen-yr-yrfa, Nebo oedd y cyfeiriad yn ôl Hugh Parry.Fferm fechan 14 erw oedd Pen-yr-yrfa ar ffin Cors y Llyn a dim ond lled cae o hen ffin plwyf Llanllyfni. Ym 1881, disgrifir Hugh Parry fel chwarelwr a ffermwr, ond ym 1891 ac 1901, fe'i disgrifir fel ffermwr yn unig.[4]

Daeth ryw anffawd i'w ran (o ran salwch neu ffarmio efallai) yn ystod Gaeaf 1903-4, pan gyhaliwyd cyngerdd gyda'r elw yn mynd i'w helpu "yn ei adfyd". Mae'r rhestr o artistiaid yn tueddu awgrymu ei fod yn ddyn a ystyrir yn aelod gwerthfawr o'r gymuned:

CYNGERDD. —Cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgol y Cyngor, Nebo, nos Wener, dan arweiniad Ieuan Nebo. Cadleirydd, Mr W. John Griffith. Dorothea. Cyfeilvdd, Mr J. Owen, Tal-y-sarn. Adroddwyr, Mri J. R. Williams, Nebo ae Isaac B. Williams, Nantlle. Cantorion: Misses M. King Sarah., Dora Williams, Mrs O. Ellis Jones. Mri G. ac O. W. Francis. Nantlle; Walter a D. D. Jones, Llanllyfni; E. Lloyd Jones, Nebo; S. W. Jones, Pen-y-groes a Chôr Meibion Glandulyn, dan arweiniad Mr D. D. Griffith (Alaw Dulyn). Elai yr elw i gynnorthwyo Mr H. O. Parry (Homo Goch) yn ei adfyd.[5]

Mae'n bosibl y bu farw ar ddechrau 1906. Bu farw ei wraig Mary fis Mehefin 1907, ac erbyn hynny roedd hi wedi symud i Tanrhiw, Nebo. Yn ol y papur lleol roedd hi'n ferch "i'r diweddar ddiacon parchus o'r gymdogaeth, Mr Richard Griffith, Pandyhen, cymeriad ag ydoedd yn gynrychiolydd lled gywir o'r oes o'r blaen a'i nodweddion. Yr ydoedd hithau yn gymeriad crefyddol unplyg a gonest."[6]

Roedd nifer o feirdd eraill wedi mabwysiadu'r ffugenw Homo Goch, un o gyffiniau Bangor oedd yn Wesla selog, ac un arall o'r de[7]; ac yn nes o lawer, dyna oedd ffugenw William Gwenlyn Evans, Rhes Cwstennin, Caernarfon, newyddiadurwr ac argraffydd.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref> Dros y blynyddoeddc nesaf anfonodd ambell i gerdd at bapurau megis Papur Pawb. Cerddi digon rhigymllyd ydynt gan fwyaf, heb unrhyw ymdrech at ddefnyddio'r gynghanedd. Yn Y Werin ym 1893 cafwyd llythyr gan ohebydd anhysbys yn ei gyhuddo o lên-ladrad trwy gopïo cerdd gan Lewis Jones, Y Bala a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Geiniogwerth ym 1840. Wrth gymharu'r ddwy gerdd, mae'n amlwg fod gwaith Homo Goch, ar y gorau, yn benthyca'n drwm iawn oddi wrth waith Lewis Jones o ran y geiriau, y odlau, y mydr a'r neges heb gyflwyno gwelliant o unrhyw fath.[8]

Gellid disgrifio Homo Goch fel rhigymwr digon twt ond arwynebol, bardd hollol leol at iws ei gymuned, fel y profodd wryth gyflwyno "anerchiad Barddonol" yng nghyfarfod llenyddol a cherddoriol Nebo ym 1897.[9] Dyma enghraifft nodweddiadol o'i gynnyrch barddonol:

I FYNY NR FANER.  
I fyny a'r faner chwi Gymry gwladgarol, 

I ymladd yn erbyn pob gorthrwm a thrais, Mae yspryd ein tadau yn llefain yn uchel, "Na phlygwch eich gliniau i Sgotyn na Sais."

Mae gorthrwm arglwyddi, 

a'u trachwant am amcan, Yn llosgi fel eirias o dan yn fy nghnawd, A'm gwaed sydd yn myned fel crochan berwedig Pan welwyf y gweithiwr i'r rheiny yn wawd. Mae'r ddraig fu'n cyhwfan am gannoedd o flwyddi Ar greigiau a chestyll uchelgryf ein gwlar A gormes canrifoedd sy'n crymu ein cefnau, Yn galw pob Cymro i uno a'r gad. 0, deuwch i'r frwydr yn lluoedd urddasol, Mae tynged ein cenedl yn sefyll yn hon, Ymladdwn yn wrol, a chawn fuddugoliaeth, Ac yna fe ganwn yn llawen "Llwyn-onn." Pen yr Y rfa. HOMO GOCH.

  1. Cyfrifiad plwyf Llanidan, 1841
  2. Cyfrifiad plwyf Niwbwrch, 1851.
  3. Cyfrifiad plwyf Llandygái, 1871
  4. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1881-1901
  5. Yr Herald Cymraeg, 22.3.1904, t.8
  6. Yr Herald Cymraeg, 11.6.1907, t.5
  7. Y Drych, 29.11.83, t.2
  8. Y Werin", 7.10.1893, t.3
  9. Yr Herald Cymraeg, 30.3.1897, t.5