Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd
Chwarel lechi oedd Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, rhwng pentref Tan'rallt a Nantlle. (SH 493521).
Cafodd y safle yma i agor ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chloddiwyd llechi gwyrdd a choch yma. Gan ei fod yn dwll cloddio bychan, roedd gwaith yno yn ysbeidiol a tua 100 o ddynion yn gweithio yno ar adegau. Roedd dŵr yn brin i droi peiriannau'r chwarel ac ers y 1880au bu ymdrechion gan y chwarel hon i ddargyfeirio petgh o ddwr a redai trwy dir Gwernor lle oedd chwarel arall. Rhaid oedd i reolwyr Chwarel Gwernor warchod eu cyflenwad o ddŵr, yn arbennig ar ôl iddynt osod tyrbinau ac olwyn Pelton, ac aethant i gyfraith ym 1907 i atal Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd; Gwernor enillodd yr achos, gydag effeithiau drwg ar Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd. Am gyfnod, rhaid oedd atal y dynion i gyd. Gweler yr hanes yma.
Credir i'r chwarel yma ddefnyddio incléin, ac yna blondin stêm i gario'r cynnyrch allan. Ym 1937-8, roedd 39 o ddynion yn gweithio yno.[1] Roedd wedi cau erbyn 1953, er roedd cwmni Twll Coed wedi gweithio yno yn y 1970au.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma