Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:21, 1 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, rhwng pentref Tan'rallt a Nantlle. (SH 493521).

Cafodd y safle yma i agor ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chloddiwyd llechi gwyrdd a choch yma. Gan ei fod yn dwll cloddio bychan, roedd gwaith yno yn ysbeidiol a tua 100 o ddynion yn gweithio yno ar adegau. Credir i'r chwarel yma ddefnyddio incléin, ac yna blondin stêm i gario'r cynnyrch allan. Ym 1937-8, roedd 39 o ddynion yn gweithio yno.[1] Roedd wedi cau erbyn 1953, er roedd cwmni Twll Coed wedi gweithio yno yn y 1970au.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 328-9.
  2. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)