John Sarah (Pencerdd Cernyw)
Roedd John Henry Sarah (ganwyd 1878), ac a urddwyd trwy arholiad i'r Orsedd ym 1918 ac a arddelai'r ffugenw Pencerdd Cernyw, yn fab i Tom Sarah a hanai o Gernyw, ac yn frawd i Mary King Sarah. Roedd ei fam Sarah hefyd yn gantores o fri: fe'i hadwaenid fel Seren Aerau.[1]Un o Dal-y-sarn ydoedd, ac am flynyddoedd lawer bu'n aelod o Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, yn offerynnwr da ac yn gyfansoddwr medrus.[2] Priododd â Margaret Ellen Jones (ganwyd 1878), nith H.E. Jones (Hywel Cefni), gwerthwr dillad, a bu'r cwpl yn byw gyda hwnnw. Er yn ddyn swil yn ôl pob sôn, fe ymgymerodd â'r swydd o godwr canu yn Seion, Tal-y-sarn wedi i'w rieni a'i chwiorydd ymfudo i America i fod yn nes at ei chwaer enwog, y gantores Mary King Sarah.[3] Hefyd, roedd yn arweinydd ar Fand Moeltryfan.
Gweithiai fel chwarelwr.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma