David Jones, gweinidog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:12, 10 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Parch. David Jones yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a fu'n gwasanaethu ynNyffryn Nantlle am ddau gyfnod tua diwedd y 19g. Bu'n weinidog ar gapel Moreia,Llanllyfni o 1873 hyd 1878, pan dderbyniodd alwad gan gapel yr enwad yn Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Dychwelodd o'r fan honno ym 1885 i fod yn weinidog Hyfrydle, Tal-y-sarn, cyn gadael yr ofalaeth honno ym 1889 am gapel yn Nyffryn Clwyd. [1]

Er nad oes llawer o'i farddoniaeth wedi dod i'r fei, mae'n amlwg ei fod yn fardd da. Gosodwyd ef yn bedwaredd allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran eu safon ym 1888[2] Credir iddo ennill ar yr awdl ac ar y bryddest yng nghyfardod llenyddol Capel Moriah, Caernarfon ym 1884.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), tt.135-6, 325; Y Genedl Gymreig, 24.4.1889, t.8
  2. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  3. Y Genedl Gymreig, 16.4.1884, t.5