Ysgol Bro Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:58, 14 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol Bro Llifon yw'r enw a ddewiswyd ar gyfer sefydliad newydd yn Y Groeslon a agorwyd yn 2016 o ganlyniad i greu ysgol cylch yn lle tair ysgol a gaewyd, sef Ysgol y Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bron-y-foel. Bu cryn anniddigrwydd ym mhentrefi Carmel a'r Fron ac anfonwyd nifer o blant y pentrefi hynny i ysgolion eraill yn yr ardal.

Penodwyd Swyn Maelor fel pennaeth cyntaf yr ysgol newydd, a godwyd ar safle hen Ysgol y Groeslon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma