Ysgol Elis Tomos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:07, 6 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhelid ysgol tua 1850 ym mhentref Carmel gan ddyn o'r enw Elis Tomos. Mae disgrifiad ohono gan Hugh Menander Jones yn Y Geninen:

Nid oedd yn yr ardal, [yn ystod y 1850au], ond un ysgol, a elwid yn "Ysgol Elis Tomos," yr hon a gynhelid ar y cyntaf yn nghapel yr Anibynwyr, Pisgah, ond yn ddiweddarach a gynhelid yn y tŷ capel, mewn lle cyfyng ac anghyfleus - plant yn y llawr a'r fules yn y cefn; a mynych yr anghydgordiad a geid yn lleisiau y naill a'r llall. Fel ysgol effeithiol i ddwyn plant i fyny yr oedd iddi enw a chlod, yn bell ac yn agos; ac nid oedd neb yn yr ardal a'r cylchoedd o'r bron na fu trwy gwrs o addysg ynddi: ond yr oedd cylch ei haddysg yn gwbl mewn darllen y Beibl Cymraeg a dysgu ysgrifennu; ac yr oedd dysgu ysgrifennu ynddi yn elfen bwysig yn ngolwg pawb. Ond symudwyd Elis Tomos gan henaint, a daeth terfyn ar yr ysgol. Nid oedd yn.y gymydogaeth. ar ôl hynny, ond Ysgol Genedlaethol Bronyfoel, Cesarea, cylch addysg yr hon oedd, rhaid addef, yn fwy ac yn well, ond yn bur aneffeithiol.[1] 

Cyfeiriadau

  1. Y Geninen, Rhifyn Gŵyl Dew3i, 1903, t.62. Diweddarwyd yr orgraff