Y Seler Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:35, 23 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Seler Ddu. Llun:Eric Jones, cc-by-sa 2.0)

Y Seler Ddu yw enw'r cwm serth sydd yn gorwedd ar lethrau dwyreiniol Mynydd Bwlch Mawr gyferbyn â Hengwm. Tir diffaith a charegog sydd yno gyda phorfa ar gyfer defaid. Yno mae un o flaen-nentydd Afon Dwyfach yn codi.

Bu gwaith cloddio am fanganîs yno yn y gorffennol, ac er bod yr hanes yn brin, mae sicrwydd i'r gwaith fod ar fynd rhwng 1872-6 pan oedd un John Cowper yn gapten ar y gwaith. Ni ddefnyddid unrhyw ffrwydron yn y gwaith, dim ond ceibiau'n unig. Mae'r gloddfa'n nodedig am y ffordd unigryw o gynnal to'r gwaith, sef trwy godi pileri o gerrig sychion.[1]

Mae un fersiwn o hanes Cilmyn Droed-ddu yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch Teulu Glynllifon, er i'r hanes fel rheol gael ei briodoli i lethrau'r Eifl.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cymdeithas Mwyngloddiau Cymru, Gwefan 2004, [1]
  2. Evan Lloyd Jones (Dinorwig), Llên y Werin yn Sir Gaernarfon, ailargraffwyd yn Y Drych (21 Gorffennaf 1881), [2]