Tafarn Pen Nionyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:33, 28 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tafarn Pen Nionyn wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn Y Groeslon ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy a oedd yn berchen ar y dafarn, yr enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor Gorsaf reilffordd Y Groeslon. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn a oedd yn eiddo i Ystad Plas Llanfair, Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd.

Owen a Margaret Williams, Llanfair Arms

Yn sicr, roedd yn agored erbyn 1841, gan fod trwydded wedi ei rhoi y flwyddyn honno, a Margaret Williams yn cadw'r lle. Hi oedd yno yn 1851 hefyd ond erbyn 1861 Owen Williams oedd yno, ac yn cyfuno'r gwaith o fod yn dafarnwr efo ffarmio. W.M. Williams oedd yn cadw'r dafarn yn 1881 ac 1891, ond roedd Owen Williams yn dal yn berchennog. Erbyn 1897, Mary Williams oedd yn dal y drwydded nes iddi ei throsglwyddo i dafarnwr newydd, James Griffiths ym mis Mai o'r flwyddyn honno.[1]

Daw'r enw Pen Nionyn o'r stori fod dyn o'r enw Owen Rowlands yn cadw'r lle rywbryd ar ôl 1900. Roedd ganddo ben crwn a oedd yn gwbl foel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw'n llurguniad o'r gair Pen Lôn Glyn, gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad Groeslon Ffrwd.

Yn ystod y ganrif ddiwethaf ceisiwyd ehangu sgôp y busnes rywfaint trwy rentu stablau i'r rhai oedd â cheffyl, gan gynnwys Dan Eames, Siop Isaf; gwerthwyd motobeics yno gan fab Owen Rowlands, Huw; ac am gyfnod roedd modd gwefru batris radios di-wifr yno hefyd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Yr Herald Cymraeg, 4.5.1897, t.4
  2. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), tt.64-5.