Gregory Williamson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:32, 30 Rhagfyr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sais heb fawr o gysylltiad ag Uwchgwyrfai oedd Gregory Williamson. Yr oedd yn byw yn hanner cyntaf y 16g. Cafodd ei benodi'n brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr ym 1537 gan Esgob newydd Bangor, John Capon, Sais arall na fuodd yn agos at ei esgobaeth cyn hynny. Ar y pryd, nid oedd Williamson ond yn wyth oed, ac yn gwbl amlwg yn anaddas ar gyfer cael ei benodi i swydd pennaeth sefydliad eglwysig - ond wrth gwrs, gallai ef a'i deulu fanteisio ar y cyflog a ddeuai gyda swyddi o'r fath, ac yn ôl arfer yr amser, na fyddai unrhyw ddisgwyliad iddo ymweld â Chlynnog Fawr! Dichon mai er mwyn ennill ffafr Thomas Cromwell, prif swyddog y brenin Harri VIII, y gwnaeth Capon y penodiad hwn, gan fod Williamson yn perthyn i Cromwell. Nid oedd dirprwy a Ficer Cyffredinol Bangor, Dr John Glyn, yn fodlon gyda hyn ac, fel cynrychiolydd yr Esgob yn ei absenoldeb o'i esgobaeth, fe benododd Sion Gwynedd (John Gwynneth) i'r un swydd o brofost. Bu achosion cyfreithiol gan y ddau brofost honedig yn draul ar arian ac amynedd deilydd cyfreithlon y swydd am ryw bedair blynedd ond, yn y diwedd, Gwynedd a orfu, oherwydd fod Capon wedi marw, a'i olynydd, yr Esgob Arthur Bulkeley, wedi mynd dramor, a neb yn amddiffyn yr achos.[1]

Wedi hynny, ni chlywyd sôn am Williamson yng Nghlynnog Fawr a chyda bod Cromwell wedi colli ffafraeth y brenin ym 1540, aeth pob atgof ohono'n anghof.

Cyfeiriadau

  1. Colin A Gresham, A Further Incident in the History of Clynnog Fawr (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966 (2) ), tt.301-2