Gwesty'r Red Lion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:18, 28 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ar Stryd Fawr Pen-y-groes oedd Gwesty'r Red Lion, a "Red Lion" yw enw'r adeilad hyd heddiw. Fel yr oedd Pen-y-groes yn tyfu'n bentref sylweddol ac yn ganolfan siopau yn ail hanner y 19g., cynyddodd nifer y tafarnau a wasanaethai'r ardal. Mae'n debyg (a barnu oddi wrth y Cyfrifiad) fod y Red Lion wedi agor yn ystod y 1870au. Yn sicr, erbyn 1881 yr oedd hi wedi ei sefydlu, gyda Ann Roberyts, gwraig weddw, yn cadw'r dafarn. Dynes leol 49 oed oedd hi, gyda 2 blentyn i'w cynnal, ac yr oedd ei brawd, a oedd yn ddyn glo, hefyd yn byw yno, ynghyd â gwas.

Ym 1891, yr oedd Ann Roberts yn dal i gadw'r lle. Ni enwir y dafarn ac fe'i rhestrwyd fel tŷ ar y Stryd Fawr, ond yr oedd Ann Roberts yn cael ei disgrifio fel ceidwad tŷ tafarn ac felly gallwn fod yn bur sicr mai sôn am y Red Lion y mae'r ddogfen. Yr oedd ei brawd, y dyn glo, yn dal i fyw gyda hi; ac felly yr oedd hi ym 1901, ond erbyn hynny, ac Ann Roberts yn agosáu at ei 70 oed, yr oedd hi wedi symud o'r Red Lion gyda'i brawd i Ogwen House gerllaw. Y disgrifiad ohoni erbyn hynny oedd "byw ar ei harian", sydd yn tueddu awgrymu fod busnes y Red Lion wedi bod yn ddigon llewyrchus.

Rywbryd tua dechrau'r ganrif, mae'n debyg, yr ailadeiladwyd y dafarn ar y ffurf ag y mae heddiw, a barnu oddi wrth safon y ddarpariaeth yn ol y Cyfrifiad a hefyd natur y pensaernïaeth, sy'n adlewyrchu dylanwadau mudiad celf a chrefft y cyfnod yn ei adeiladwaith. Nid oes sicrwydd pwy a adeiladwyd y dafarn ar ei newydd wedd, ond dichon mai Robert H. Evans, 30 oed, a aned yng Nghricieth a wnaeth. Yr oedd y dafarn erbyn hyn yn cael ei alw'n westy, a Robert Evans yn cael ei ddisgrifio fel ceidwad gwesty a meistr y tŷ. Yn byw yn y gwesty yr oedd y rheolwraig a aweithiai heefyd y tu ôl i'r bar, sef Winifred Roberts, 24 oed, a hanai o Ffestiniog. Yr oedd gwas cyffredinol hefyd yn byw yno, ynghyd â William G. Evans, 35 oed a oedd hefyd yn hanu o Gricieth - tybed, yng ngoleuni'r cyfenw ynb gyffredin rhyngddo a Robert, ai brawd hyn Robert ydoedd. Mae William yn cael ei ddisgrifio fel gyrrwr ac ostler (sef dyn a ofalai am geffylau). Yn sicr, mae mynediad at stabl neu gertws yn rhan o du blaen yr adeilad. Heb ei orffen