Elinor Bennett

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:32, 7 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Elinor Bennett (Y Fonesig Elinor Bennett Wigley) (g.1943) yw gwraig y gwleidydd Dafydd Wigley. Yn enedigol o Lanidloes, ac yn ferch i'r arwerthwr a cherddor Emrys Bennett Owen, fe symudodd gyda'i theulu i Lanuwchlyn pan yn blentyn. Ar ôl graddio yn y gyfraith yn Aberystwyth, bu'n gweithio mewn swydd ym maes y gyfraith yn Llundain am rai blynyddoedd cyn benderfynu mynd i'r Academi Gerdd Frenhinol, gan astudio'r delyn o dan Osian Ellis.

Am flynyddoedd lawer mae hi wedi perfformio'n broffesiynol ar draws y byd yn ogystal â dysgu llawer o'n telynorion mwyaf disglair.

Mae hi a'i gŵr wedi ymgartrefu mewn tŷ a godwyd ganddynt yn Llanwnda ers y 1970au pan etholwyd ei gŵr i San Steffan.

Mae hi wedi cyhoeddi deuddeg albwm o gerddoriaeth i'r delyn, yn ogystal â'i hunangofiant, Tannau Tynion (Gwasg Gwynedd, 2012).[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Erthygl ar Elinor Bennett ar Wicipedia, [1]