Cwm Silyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:24, 28 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cwm Silyn yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Enw arall ar y cwm yn lleol yw'r Graig Las.[1]Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyfni. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf, yn ogystal â nifer o gorlannau defaid. Hefyd ar lan y llyn mae olion cwt cychod a ddefnyddid gan bysgotwyr. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd i lawr y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd safle Llyn Nantlle Isaf nid nepell o fferm Tŷ Coch. Afon Tŷ Coch yw'r enw a roddir iddi gan y trigolion lleol er nad yw'r enw hwnnw'n ymddangos ar unrhyw fap.[2] Erbyn heddiw mae'r rhedeg yn syth i Afon Llyfnwy. Mewn pwll llai yn y cwm fe gŵyd Afon Rhydus - neu Afon Rhitys i arddel sillafiad arall.

Fel llawer o fannau eraill, mae Cwm Silyn yn leoliad straeon y Tylwyth Teg. Denai'r llynnoedd bysgotwyr ar hyd y canrifoedd, ac adroddir am un bysgotwr, William Elis, a dreuliodd bnawn ar ei hyd wrth y llyn. Yn annisgwyl, ymddangosodd griw o ddynion byr o'i flaen, yn canu ac yn dawnsio ger y llyn. Ar ôl iddo eu gweld a gwrando atynt, ceisiodd nesáu atynt, ond chwythodd y dynion lwch i'w lygaid. Ar ôl rhwbio ei lygaid, roedd y Tywyth Teg wedi diflannu yn ol yr hanes.

Ym 1942, tarodd awyren Hawker Henley o faes awyr Tywyn, Meirionnydd, y graig uwchbwn y llyn, gan ladd y peilot. Roedd olion yr awyren i'w gweld tan yn ddiweddar.

Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd lôn drol o gyfeiriad Nebo, neu drwy droi i fyny allt Tyddyn Agnes o gyfeiriad Tan'rallt, ond mae'n llwybr poblogaidd oherwydd y nifer o ddringwyr sydd yn mynd at ochr serth Craig Cwm Silyn, lle ceir rhai o ddringfeydd gorau'r ardal.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Mynyddoedd Nant Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]
  3. Geariant Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri, (Tal-y-bont, 2011), tt.40-1.