Afon Gochoer

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:43, 21 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiai Afon Gochoer y ffin ogleddol ar gyfer hen drefgordd Bodellog.[1] Mae'r afon yn codi ar gyrion Cors y Llyn ychydig i'r de o bentref Nebo, ac yn llifo i'r gorllewin heibio i ffermydd Glan-yr-afon ac Eisteddfa. Yn y fan honno, roedd melin lifio coed yr arferid ei throi trwy rym dŵr Afon Gochoer. Aiff yr afon yn ei blaen heibio i fferm Bryn-y-gro ac i safle hen felin yr Arglwydd, Melin Bryn-y-gro, gyda'i hanes yn ymestyn yn ôl i'r canol oesoedd. Mae Afon Gochoer yn ymuno ag Afon Llyfni ger Dol-gau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Ebenezer Thomas, Cyff Beuno, (Tremadog, 1863), t.24