Kate Roberts
Llenor oedd Catherine ‘Kate’ Roberts (1891-1985).
Ganwyd yn Rhosgadfan ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Mae’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael â phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn yr 20g. Priododd â Morris T. Williams ym 1928, a bu'r ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw Traed mewn Cyffion, Y Byw sy’n Cysgu a Tegwch y Bore. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o storïau byrion hefyd megis Te yn y Grug, O Gors y Bryniau a Ffair Gaeaf. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lôn Wen’ ym 1960.[1] Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1950, a derbyniodd Fedal y Cymmrodorion ym 1961. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.[2] Roedd Kate Roberts hefyd yn genedlaetholwr Cymreig[3].
Cyflwynodd ei hen gartref, a oedd wedi mynd i gyflwr sâl, i'r genedl. Trowyd yr adeilad yn "furddun rheoledig", gan dynnu ei do, plaster mewnol a choediach. Yn ddiweddarach, cafwyd grantiau ac yn dilyn ymdrech leol a arweiniwyd gan (ymysg eraill), Dewi Tomos, fe adferwyd y tŷ i'w hen gyflwr ac ychwanegwyd ystafell ddarlithio gan ei agor i'r cyhoedd. Gan nad oedd agor rheolaidd yn llwyddiant, rhoddwyd rheolaeth y lle yn nwylo CADW, a gellir ymweld â'r safle trwy drefnu ymlaen llaw.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Roberts, Kate "Y Lôn Wen" (Dinbych, 1960).
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Cofnod ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol
- ↑ Gwefan CADW - Cae'r Gors; Gwefan Cae'r Gors