Setiau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:17, 18 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae setiau yn flociau sgwar o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Yn Uwchgwyrfai, Trefor oedd canolfan gwneud setiau, ac fe'i hallforiwyd o harbwr y fan honno yn ei miloedd a miliynau. Cerrig palmantu yw setiau, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn gwisgo'n galed ac yn creu arwyneb haws i'w gosod a chynnal nag arwyneb wedi ei chreu o gerrig mân naturiol (cobblestones). fe'u defnyddid yn helaeth ar elltydd mewn trefi hefyd gan fod ceffylau'n medru cerdded yn haws arnynt nac ar arwyneb lefn ar oleddf. Hefyd, fe'u defnyddid fel arwyneb ar boptu, ac yng nghanol, cledrau tramffyrdd dinesig.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wikipedia ar "Set (Paving)", [1]