Betty Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:17, 22 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwleidydd Plaid Lafur yw Betty Helena Williams (ganwyd 1944. Cafodd ei magu yn Nhal-y-sarn ac mi fynychodd Ysgol Dyffryn Nantlle a'r Coleg Normal ym Mangor. Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Gyfunol dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010.

Gyrfa Gwleidyddol

Ym 1967 fe'i hetholwyd yn faer Cyngor Plwyf Llanllyfni. Aeth ymlaen i fod yn Cynghorwraig Ardal, ac yna'n Faer Arfon ym 1990. Bu hi'n aflwyddiannus yn cystadlu etholaethau Caernarfon ym 1983, a Chonwy ym 1987 a 1992. Dewisiwyd eto gan y Blaid Lafur i gystadlu etholaeth Conwy ym 1995 ar gofrestr menywod yn unig. Er datganiad fod y dull hwn yn anghyfreithlon, fe'i cadwodd yr hawl i gystadlu'r set. Yn etholiad cyffredinol 1997 cafodd hi ei ethol dros Gonwy gyda mwyafrif o 1,596.

Cydnabyddwyd Williams fel aelod teyrngar i'r blaid ac i Brif Weinidog y DG, Gordon Brown.

Ym Medi 2008, fe'i cyhoeddodd na fyddai'n sefyll yn yr etholiad nesaf yn 2010 er mwyn ei galluogi i newid cydbwysedd ei gwaith.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ertghygl Wicipedia am Betty Williams, [1], cyrchwyd 20.2.2022