Tafarn Barmouth
Tafarn Barmouth oedd un o bedair tafarn ar brif stryd pentref Llanllyfni. Safai ar gornel y lôn sydd yn arwain heibio i ble mae’r ysgol gynradd heddiw, a chyferbyn â Chapel Salem. Dichon mai gwasanaethu rhan uchaf y pentref a’r tyddynnod gerllaw ydoedd.
'Roedd y dafarn yn agored erbyn 1851 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad. Yr adeg honno, Mary Edwards, 43 oed, oedd yn cadw’r dafarn, a Mary Edwards arall, pymtheg mlynedd yn iau oedd yno – rhaid tybio mai mam a merch oedd y ddwy hyn. . Am ryw reswm, nid yw’r King’s Head yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiad 1871, ond erbyn 1881,Hugh Williams, saer maen, oedd yn cadw’r dafarn fel ffordd o ennill mwy o arian. Ym mhen deng mlynedd, Owen Hughes, chwarelwr 26 oed oedd y landlord, ac ym 1901, y landlord oedd John Roberts, masnachwr glo 34 oed. 1841, [1]
Pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai fis Mawrth 1909, ni soniwyd am Dafarn Barmouth, a dywedwyd yn y llys mai tair tafarn oedd yn y pentref, sef Tafarn y King’s Head, Tafarn y Quarryman’s Arms a Thafarn y Ffort. .[2] Mae’n amlwg felly fod y dafarn wedi ei chau am y tro olaf rywbryd rhwng 1901 a 1909.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma