Tafarn y King's Head

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:04, 21 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

'Roedd Tafarn y King's Head yn un o bedair tafarn ar y lôn bost sydd yn rhedeg trwy bentref Llanllyfni, a’r cyntaf i rywun gyrraedd wrth deithio o gyfeiriad Pen-y-groes. Safai ger Melin Llanllyfni gyferbyn â’r eglwys.

'Roedd y dafarn yn agored erbyn 1841 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad cyntaf, er ei bod yn hŷn o lawer yn ôl pob tebyg. Ym 1841, John Griffiths, gŵr 67 oed oedd y tafarnwr, ac yr oedd yn dal yno ym 1851. Erbyn 1861, fodd bynnag, dyn iau, Griffith Jones, 46 oed, ac weithiau’n bennaf fel gwerthwr gwlanenni (“woollen draper”) oedd yn cadw’r dafarn. Am ryw reswm, nid yw’r King’s Head yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiad 1871, ond erbyn 1881, Robert Williams, 39 oed, oedd yn cadw’r dafarn fel ei brif swydd. Ym 1891, Robert Williams, chwarelwr 70 oed, oedd yn cadw’r dafarn yn ogystal â gweithio mewn chwarel. Ac yr oedd yno ym 1901, yn 81 oed, ond erbyn hyn ei unig waith oedd fel “ceidwad tŷ tafarn”.[1] Rhaid i rywun ddod i’r casgliad, o ystyried yr uchod, fod y dafarn heb fod yn cynnig bywoliaeth fras i’r sawl oedd yn ei chadw, a bu’n ffynhonnell incwm ychwanegol neu weithiau’n ffordd o ennill ychydig i rai oedd yn rhy hen i weithio’n gorfforol galed.

Nid oes sôn am y King’s Head yng Nghyfrifiad 1911, ond ar fap Ordnans a wnaed ym 1914, fe ddangosir y lle fel tafarn o hyd – er efallai, hen wybodaeth sydd yn ymddangos ar y map.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1841-1911