Chwarel Blaen-y-cae
Chwarel lechi oedd Chwarel Blaen-y-Cae ger Chwarel Dorothea a Chwarel y Fron ger Nantlle.
Chwarel fechan oedd y chwarel hon, ac agorwyd hi o gwmpas 1830. Cariwyd llechi'r chwarel hon ar flondin arbennig, ac ar inclein chwarel Cilgwyn i Dal-y-sarn. O gwmpas 40 o ddynion oedd yn gweithio yno pan oedd ar ei phrysuraf, a chynhyrchodd 800 tunnell yn flynyddol yn y cyfnod hwn.[1]
Cafodd ei huno ym 1905 gyda chwarel Tal-y-sarn a phan aeth i ddwylo perchennog nifer o chwareli eraill, Thomas Robinson, oedd yn berchen ar Chwarel Tan'rallt, Cloddfa'r Coed a Chwarel Braich hefyd. Dywedir iddi gau cyn y 1930au, ac mae Jean Lindsay yn nodi'r dyddiad 1909, sef ar ôl iddi gael ei phrynu (ond nid ei gweithio) gan gwmni Chwarel Dorothea.[2].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma