Chwarel Parc Dudley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:17, 17 Rhagfyr 2018 gan Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Parc Dudley yn chwarel ithfaen ar lethrau isaf Moel Smytho, ger Gorsaf reilffordd Waun-fawr. Fe'i hagorwyd yn y 1920au ond gweddol fyr oedd ei hoes hi; y perchnogion oedd cwmni o ardal Wolverhampton. Roedd peiriant malu carreg yn y chwarel, ac arllwysfa islaw i lwytho wagenni rheilffordd tra pharhaodd gwasanaethau ar y lein fach, ac wedyn lorïau. Mae nifer o olion diddorol yn dal yn y chwarel sydd wedi ei diogelu fel gwarchodfa natur ers 1994. Mae llwybrau difyr wedi eu creu er mwyn i'r cyhoedd ddarganfod nodweddion y safle.

Bellach mae'r safle'n warchodfa naur leol, sef Parc Dudley.