Ysgol Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:31, 6 Ebrill 2020 gan Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Tal-y-sarn yw Ysgol Gynradd Tal-y-sarn. Roedd â'r gwreiddiau mewn ysgol ddyddiol a gychwynnwyd yn festri Capel Tal-y-sarn (MC), 1856, cyn bod ysgol ffurfiol wedi ei sefydlu. Y prif ysgogydd oedd un o flaenoriaid, y Parch. William Hughes, Hyfrydle wedytn. Fo hefyd oedd un o aelodau etholedig y Bwrdd Ysgol ac yn ysgrifennydd arno.[1]

Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1857, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwir yr ysgol yn Talysarn British School tra roedd yn ysgol gymysg, aeth wedyn yn Talysarn Boys Board School rhwng 1877 pan agorwyd ysgol ar wahan i'r merched, sef Talysarn Girls Board School. Symudwyd y babanod oddi wrth y merched yn 1883 hefyd, ac agorwyd Talysarn Infants Board School. Unwyd yr Ysgol Gynradd yn 1904, gan ddysgu bechgyn a merched o dan yr 'run tô[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.324
  2. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Talysarn (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/23 [1863-1939]