Meini cwrlo

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:50, 7 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae gwenithfaen Chwarel yr Eifl yn cael ei ddefnyddio, ymysg pethau eraill, i gynhyrchu meini cwrlo, y cerrig a ddefnyddir wrth chwarae cwrlo. Mae cwrlo'n debyg i bowlio ar iâ mewn ffordd, gyda'r chwaraewyr yn anelu cerrig trymion tuag at darged ar hyd arwyneb sydd wedi ei rhewi . Mae'n gamp a chwareuir yn y Gemau Olympaidd, ac yn 2002, cerrig o Drefor yn unig a ddefnyddid yn y gemau hynny. Trefor yw un o ddim ond dwy ffynhonell o wenithfaen a ganiateir gan gorff llywodraethol rhngwladol y gamp - y ffynhonell arall yw ynys Creag Ealasaid (Ailsa Craig) yn Swydd Ayr yn yr Alban. Cyfyngir ar darddiad y cerrig er mwyn sicrhau safon cyfartal rhwng chwaraewyr, a dewiswyd ithfaen Trefor oherwydd ei lefel arbennig iawn o galedwch a'i allu i beidio ag amsugno hyd yn oed y diferyn lleiaf o hylif.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma