Seidin Coedmadog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:26, 1 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhedai Seidin Coedmadog o orsaf Nantlle ym mhentref Tal-y-sarn fel estyniad i un o seidins iard nwyddau'r orsaf, ar draws y ffordd ac ymlaen i Chwarel Coedmadog. Roedd y lein yn 4' 8½" o led ond ni chanieteid i injans stem redeg ar hyd-ddi. Defnyddid ceffylau i dynnu'r wagenni i fyny at gei llwytho'r chwarel oi iard gorsaf Nantlle. Defnyddid disgyrchiant ar y ffordd yn ôl, trwy ddefnyddio'r oleddf yn y trac a beciau'r wagenniRoedd y chwarel yn defnyddio traciau lled 2' o wyneb y graig a'r siediau i'r man llwytho.

Er bod y chwarel wedi bod mewn bodolaeth ers cyn 1820, a chysylltiad efo Rheilffordd Nantlle wedi arfer cael ei ddefnyddio, ni adeiladwyd y seidin hyd fis Ebrill 1881 a hynny ar gost o £630. Caeodd y chwarel ym 1909, ond ni chodwyd y cledrau tan 1927.[1]

Coedmadog oedd yr unig chwarel yn y dyffryn i gysylltu'n uniongyrchol â'r lein fawr. Defnyddid cyswllt Rheilffordd Nantlle gan y chwareli eraill i gyd.

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981) tt.233-4.