Pont-y-gydros

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:57, 5 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont-y-gydros ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Llangybi ar y ffordd fawr o Lanaelhaearn i Bwllheli. Mae'n dyddio i gyfnod cyn y 19g. ond ym 1823 fe estynwyd waliau ochr y pen gogleddol. Y conttractor oedd William Robert Gabriel o Bwllheli, saer maen. Cost y gwaith oedd £80. Ynghyd â thrwsio'r bont ei hun, lledwyd y ffordd dros y bont o 12'4" i 18'6". Y pensaer ar gyfer y gwaith oedd William Thomas, syrfewr y sir.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd X/PlansB/87, 204