Pont Tŷ Nant
Mae Pont Tŷ Nant neu Pont Tŷ'n-y-nant, yn croesi Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog ger y tŷ o'r un enw ar y lôn sy'n croesi rhwng y ffyrdd sy'n arwain at Bwllheli a Phenmorfa, sef Lôn Cefn Glyn. Dichon mai'r bont dan y ffordd a guddir gan Wal Glynllifon ger Pen'rallt[1] yw'r dogfennau sy'n cyfeirio ati. Adeiladwyd pont newydd sbon yn lle'r bont a oedd yno gynt ar y safle ym 1837 i gynllun a wnaed gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Thomas Humphreys, Plas Mawr, Y Groeslon, ffermwr lleol, am y swm o £69. Diddorol yw sylwi, er bod cynllun a manyleb wedi eu paratoi ar gyfer y gwaith, nid oedd Humphreys yn gallu llofnodi'r dogfennau gan ei fod yn anlythrennog. [2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma