Market Stores, Pen-y-groes
Siop yn Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes oedd y Market Stores. Bu'n brysur iawn tua dechrau'r ganrif ddiwethaf mewn man prysur nid nepell o orsaf y pentref. Owen Robert Williams oedd y perchennog, a gellir gweld o ffotograff o'r siop a dynnwyd tua 1925 ac a ymddangosodd yn llyfr lluniau o Ddyffryn Nantlle ei fod yn gwerthu pob math o nwyddau haearn ac offer angenrheidiol.[1]. Er gwaethaf prysurdeb ymddangosiadol y siop, mi fethodd y busnes ym 1927-8, pan aeth O.R. Williams yn fethdalwr.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma