B. Dew Roberts
Hanesydd ac awdures oedd Barbara Dew Roberts (?1885-1963) oedd yn byw ar un adeg ym Mhlas Tryfan, ger Rhos-isaf. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddiyng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen fyw yn Wellfield House, Bangor ym 1891, a changen eraill ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.[1] Mae'n debyg na fuodd hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibirwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts.
A hithau wedi cyrraedd ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Yr oedd hi erbyn hyn yn byw ym Mhlas Tryfan, ac yno yr oedd hi'n byw pan ymunodd â Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei llyfrau ceir Mr Bulkeley and the Pirate" (Llundain, OUP, 1935); Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650 (Llundain, OUP, 1938); Still Glides the Stream (Llundain, Chatto & Windus, 1940); Some Trees Stand, (Llundain, Chatto & Windus, 1943); a "The Charlie Trees: a Jacobite novel", (Llundain, Chatto & Windus, 1951). Gellid dadlau, fodd bynnag, mai ei chynnyrch llenyddol pwysicaf oedd ei golygyddiad o ddyddiadur Edward Christian, bachgen o Glynnog a farwodd yng Nghanada, a gyhoeddwyd efo'r teitl Unflinching (Llundain, Murray, 1937),[2] ac ydd bellach yn cael ei gyfrif fel clasur yng Nghanada.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma