Cwm Planwydd
Cwm ar ochr ddwyreiniog Mynydd Mawr yw Cwm Planwydd. Caiff ei enw o'r fferm ger ei waelod, sef Planwydd. Ar hyd ei waelod y mae Afon Goch yn rhedeg, ac ar ei ochr ogleddol, nid nepell o Lyn Cwellyn y mae craig fawr Castell Cidwm.
Nid oes fawr nodedig ynglŷn â'r cwm heblaw am yr olygfeydd trawiadol ar bob tu, ond ger ei ben uchaf y mae olion hen gorlan neu loc ar ffurf y llythyren 'D' er mwyn cadw anifeiliaid, ac sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd.[1]
Mae olion sawl damwain awyren yn dal i'w gweld yn y cwm, yn eu musg olion awyren Vampire a darodd y llawr ar daith hyfforddi o'r Fali ym Môn ym 1956; dynodir safle'r gwrthdrawiad gyda llythrennau 'VZ' wedi eu ffurfio ar y llawr ghda cherrig. Hefyd ceir olion awyren Mosquito o 1944.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma